Bwthyn Hunan-ddarpar 5 seren yn harddwch De Cymru

Bwthyn Hunan-ddarpar 5 seren yn harddwch De Cymru | Bwthyn Glyn

Llety moethus yng Ngwm Tawe wedi ei amgylchynnu gan gefn gwlad trawiadol, dramatig ac yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac arfordir syfrdanol y Gwyr.

Discounts

Up to 15% discount for holidays taken between 23 Sep 2017 and 22 Dec 2017 minimum of 3 nights maximum of 21 nights

Bwthyn Hunan-ddarpar 5 seren yn harddwch De Cymru

Mewn cefn gwlad trawiadol ac yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, arfordir gwefreiddiol Gwyr a Bro’r Sgydau mae’r bwthyn hwn yn cynnig llety hunan-ddarpar 5 seren ynghanol harddwch Cwm Tawe. Wrth i chi yrru i fyny at y bwthyn fe ddewch yn ymwybodol o lonyddwch distaw eang yr ardal. Fodd bynnag mae’n hygyrch iawn ac mae’n hawdd cyrraedd yr atyniadau lleol. Boed am benwythnos hir moethus neu wythnos egnïol o feicio neu gerdded, Bwthyn Glyn yw’r lle perffaith ar gyfer eich gwyliau.

Eisteddwch i fwynhau pryd o fwyd neu ddiodydd tu allan ar noson fwyn yn y gerddi tlws o dan olau’r teras, ymlaciwch gyda brecwast yn yr ystafell fyw heulog neu swatio’n glyd yn y bath trobwll gyda llyfr. Wedi ei leoli ymhell o’r brif ffordd heb unrhyw draffig yn pasio drwodd, mae’r bwthyn yn cynnig awyrgylch heddychlon, gyda dim mwy na chwningen neu gnocell y coed achlysurol i amharu arnoch.

Llawr Gwaelod

Mae’r gegin/ystafell fwyta ar gynllun agored ac yn gyflawn gyda phopty ceramig dwbl Rangemaster ac wynebau gweithio gwenithfaen, golchwr llestri, oergell a rhewgell integredig.

Ystafell iwtiliti gyda golchwr / sychwr dillad.

Ystafell fyw gyda theledu sgrin lydan a Sky+, Wifi, chwaraewr DVD, stôf llosgi coed a basged o goed tân yn y fargen.

Llawr Cyntaf

Ystafell ddwbl gydag en-suite yn cynnwys cawod

Ail ystafell wely ddwbl

Ystafell wely twin

Prif ystafell ymolchi gyda bath trobwll

Gardd

Ardal balmantog yn y blaen, yr ochr a’r cefn. Ceir lawnt fawr yn y blaen hefyd gyda golygfeydd o’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd. Dodrefn gardd - bwrdd pren a chwe chadair.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir dillad gwely a thywelion

Darperir cot a chadair uchel ar gais, dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.

Gwres canolog (olew) a thrydan yn gynwysedig

Stôf llosgi coed gyda basged o goed am ddim

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.

Digonedd o le parcio ar y safle.

Stôf llosgi coed gyda basged o goed am ddim.

Gwyliau byr ar gael ar adegau penodol o’r flwyddyn, gweler mwy o wybodaeth o dan ‘Prisiau’.


  • Archebwch neu gael prisiau

  • 5 star
  • Cysgu hyd at 6
  • 3 bedrooms: 2 double, 1 twin
  • Baby friendly
    Enclosed garden
    Log fire
    Shop / pub within 1 mile
    Wi-fi / Internet
  • Gweld map mwy o faint
  • Ymholiadau
  • Tystebau

    Very clean, good conditionand a very frendly owner
    Friends from Switzerland, Jul 2017

    The cottage was beautiful with coordinating furnishing and spotlessly clean and fresh. The owner, Mali, has thought of everything including providing fresh, delicious Welsh cakes. We will definitely book the cottage again soon. The Gower peninsula is beautiful and the beaches really clean. Mumbles is well worth a visit
    Jan from Nottingham, Jun 2015

    Peaceful, relaxing and home from home

    We visited the Penderyn whisky distillery- fully recommend
    Friends from Reading, Dec 2013

    “Wonderful quiet, peaceful location with many attractions close by!!”


    This was a delightful cottage with every home comfort and more. The owner was amazing and could not do enough to make our stay any more pleasant and yet was so unobtrusive. Local attractions a plenty and not far from the wonderful Brecon Beacons. We were greeted with home-made Welsh cakes and a glorious cottage with comfortable beds and fresh linen and towels - a truly delightful place to stay - WE WILL BE BACK!!


    Mary Spicer, Liverpool, Jun 2013

    "lovely"

    This was a beautiful cottage, lovely location up a mountain with fabulous views of surrounding mountains. The cottage itself had wonderful facilities and the owner was welcoming and friendly. would definately stay there again

    Lisa Batley, Nov 2011