Bythynnod Hunan-ddarpar Dyffryn Ardudwy, ger Bermo

Bythynnod Hunan-ddarpar Dyffryn Ardudwy, ger Bermo | Ty Cerrig

Mae'r Bwthyn Hunan-ddarpar Moethus hwn yng Ngogledd Cymru wedi ei leoli’n wych i wneud y mwyaf o draethau a machlud haul nodedig Bae Abermo.

Discounts

Bythynnod Hunan-ddarpar Dyffryn Ardudwy, ger Bermo

Ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri mae’r bwthyn hunan-ddarpar cysurus hwn o’r 19eg ganrif wedi ei leoli’n wych i wneud y mwyaf o draethau a machlud haul nodedig Bae Abermo. Mae taith gerdded un filltir yn arwain at draethau tywod maith, mae tafarndai’r pentref 200 llath i ffwrdd a gellir mwynhau pysgota, marchogaeth, golff, llwybrau cerdded gwych a theithiau trên arfordirol i gyd yn lleol. Mae bwytai a siopau’r harbwr yn Bermo 5 milltir i ffwrdd, yn ogystal â chastell godidog Harlech. Portmeirion 15 milltir. Siop leol ½ milltir.

Llawr Gwaelod

Mae ystafell fyw gyfforddus ac eang yn aros amdanoch ym mwthyn Ty Cerrig gyda theledu, chwaraewr DVD, llosgwr coed a golygfeydd hyfryd o gysur y soffas. Mae gan y bwthyn moethus hwn ystafell fwyta a chegin agored ac mae’n cynnwys microdon, golchwr llestri, oergell larder ac oergell / rhewgell. Ceir hefyd gyntedd, toiled ac ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi a sychwr dillad ar y llawr gwaelod.

Llawr Cyntaf

Gyda 2 ystafell wely ddwbl ac un ystafell gyda gwely bync, mae digon o le yn y bwthyn hwn ger y môr. Mae’r ystafell ymolchi yn eang a golau yn cynnwys toiled, bath a chawod ar wahân.

Gardd

Gardd fawr gyda digon o le i’r plant chwarae yn ddiogel a dodrefn gardd i chi ymlacio arnynt wrth edmygu’r golygfeydd yn awel iach glan y môr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dillad gwely a thyweli yn gynwysedig

Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig

Cot a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot

WiFi ar gael

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu

Digon o lefydd parcio am ddim


  • Archebwch neu gael prisiau

  • 4 star
  • Cysgu hyd at 6
  • 3 bedrooms: 2 doubles, 1 bunk
  • Baby friendly
    Enclosed garden
    Log fire
    Shop / pub within 1 mile
    Wi-fi / Internet
    Within 5 miles to beach
  • Gweld map mwy o faint
  • Ymholiadau
  • Tystebau

    It is a lovely place to stay and has everything you need.
    Lovely beach at Barmouth and Harlech and surrounded by mountains.
    Paul from Leicester, Jun 2017

    Lovely cottage, everything you need is there.
    Tips: Walk round the area and see the views, they're great, the beach is great.
    Couple from Leicester, Nov 2016

    A real home from home, but without my son's toys everywhere! If you have small children, Barmouth is great, take the Ferry boat over to Fairbourne and enjoy Fairbourne Steam Railway. Bendi-gedig soft play is an excellent facility, the food is great there too. Harlech Castle is a good day out and worth a visit.
    Judith from Sutton Coldfield, Nov 2016

    Lovely relaxing holiday.
    Tips: Use the trains. Visit the beaches.
    Family from Kendal, Sep 2016

    Beautiful countryside, ideal for walking and cycling
    Lynne from Warrington, Mar 2016